Home >> Courses >> Local Welsh Users

Local Welsh Users

(English version further down page)

Agwedd Gymreig yn Blue Peris

Coeliwn yn gryf yma yn Blue Peris y dylai ein hadnoddau, profiad ac ein brwdfrydedd dros yr awyr agored ac addysg fod ar gael i’r gymuned leol. Yn ogystal, dylai ein gwasanaeth allu cynnig gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn falch fod gennym Gymry Cymraeg lleol yn gweithio fel hyfforddwyr i ni, ac ein bod wedi gallu cynnig cefnogaeth i hyfforddwyr newydd drwy gyfrwng ein cynllyn hyfforddi dros y blynyddoedd diwethaf.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein cysylltiadau Cymreig wedi parhau i ehangu, gan gefnogi’r gymuned leol. Rydym wedi cyflawni ystod eang o gyrsiau gwahanol, rhestrir detholiad ohonynt isod:

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn

Prosiect antur a chydweithio dau ddiwrnod, gyda thasgau a gwobrwyon strwythuredig. Hefyd fe gyflawnwyd digwyddiad hyfforddiant ar gyfer holl staff y gwasanaeth.

Ysgol Garndolbenmaen

Aethom a’r ysgol allan am ddiwrnod ar yr Aran o Ryd Ddu.

Prifysgol Bangor

Ers tro mae cysylltiad rhwng Blue Peris a’r brifysgol, gan roi cyfleoedd ymarfer dysgu i fyfyrwyr ar gyrsiau TAR addysg awyr agored.

Ysgol Dyffryn Ogwen

Rydym wedi darparu teithiau tanddaearol i gloddfeydd lleol am ddim i ddisgyblion fel rhan o hyfforddiant i staff Blue Peris, ac wedi cynnig cyfleoedd profiad gwaith yn y ganolfan.

Ysgol Brynrefail

Am nifer o flynyddoedd rydym wedi darparu dyddiau o fynydda, cwrs rhaffau isel, teithiau canwio, a mwy ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys cwrs caiacio 10 wythnos i’w disgyblion.

Ysgol Friars

Rydym wedi darparu sesiynau un diwrnod o weithgareddau fel rhan o wythnos cyfoethogi’r cwricwlwm.

Gyrfa Cymru

Mae Blue Peris wedi cynnig cyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion ysgol ac wedi bod yn rhan o sioe deithiol am y byd gwaith.

Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint

Darparwyd cwrs meithrin sgiliau tîm ar gyfer yr adran gwasanaethau cymdeithasol.

Prosiect Dringo’r Waliau

Drwy gynnig cyfleoedd i arsylwi gweithgareddau a hyfforddiant am ddim mae Blue Peris wedi rhoi cefnogaeth i’r prosiect yma i gymhwyso 5 o ferched o ardal Dyffryn Nantlle mewn gweithgareddau awyr agored.

Gwybodaeth Bellach

Fei’ch anogir chwi i edrych ar ein gwefan, ac i gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau, rydym y agored i unrhyw ofynion o ran natur y gweithgareddau. Gallwn gynnig ystod eang o ddarpariaeth, o weithgaredd am hanner diwrnod, i ymweliad preswyl, boed hynny am noson, neu am gyfnod llawer hirach.

Welsh Perspective at Blue Peris

Here at Blue Peris we have a strong belief that our facilities, experience and passion for the outdoors, and education should be made available to our local community. In addition to this, our service should provide the option to have activities delivered in the medium of Welsh. We are proud to have local Welsh speaking instructors working for us and to have supported aspiring Welsh instructors through our trainee scheme in recent years.

Over the past years our local Welsh connections have continued to grow and support the community. We have provided a varied range of courses with a selection highlighted below.

Anglesey Youth Justice Service

2 day adventure and team co-operation project structured around a variety of tasks linked to rewards. We also delivered a staff training event for all the staff that are part of the service.

Ysgol Garndolbenmaen

We took the whole school up Yr Arran Mountain.

Bangor University

We have long standing links with the university in taking on trainee teachers who are studying for a PGCE in outdoor education.

Ysgol Dyffryn Ogwen

We have provided free underground mine trips as part of our staff training and offered work placement for their pupils.

Ysgol Brynrefail

Over many years we have provide mountain walking days, low ropes, canoe trips and other activities for the school. Including a 10 week Kayaking course for students.

Ysgol Friars

We have provided one day activity sessions as part of curriculum enrichment week.

Careers Wales

Taken on school pupils for work placements and be part of their World of Work Roadshows.

Flintshire Social Services

Delivered a team building course for their social services department.

Climbing the Walls Project

A local project to establish 5 Welsh speaking woman as outdoor instructors. The centre has provided much free training and support through observation opportunities.

Further Information

Please view the whole of our website and contact us for a discussion if you have any queries. We are very open to ideas in view of what our clients may require from half a day activities to a full residential from 1 night upwards.

Anglesey Youth Justice Service
Garndolbenmaen School
Local school group on Tryfan
Problem Solving Day
Afon Ddu Gorge
Teacher on Mountain Leader course

 

 

Site Map

© 2011 Blue Peris